Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher, 2
Mai 2018
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.
(45 munud)
(0 munud)
Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol.
(5 munud)
(30 munud)
Yn unol â Rheol Sefydlog 11.15(i), mae’r Pwyllgor Busnes wedi penderfynu y cynhelir unrhyw bleidlais angenrheidiol ar y cynnig o dan eitem 6 ar unwaith wedi i’r eitem honno i ben.
(15 munud)
NDM6710 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad – Adroddiad 01-18 gyda’r adroddiad gan Syr John Griffith Williams QC o dan baragraff 8.6 o’r weithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion erbyn Aelodau’r Cynulliad – a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 18 Ebrill 2018 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9.
2. Yn cymeradwyo'r argymhelliad yn yr adroddiad bod achos o dorri amodau wedi ei ganfod a phenderfynu y dylai'r Aelod, o dan Reol Sefydlog 22.10 (i) a (iii) gael ei geryddu a'i wahardd o drafodion y Cynulliad am y cyfnod o saith niwrnod calendr yn syth ar ôl derbyn y cynnig hwn.
(60 munud)
NDM6695
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1. Yn nodi gwaith ymchwil gan Plan International UK ar dlodi misglwyf a stigma, sy'n amcangyfrif bod un ym mhob 10 o ferched yn y DU wedi methu â fforddio cynhyrchion misglwyf.
2. Yn croesawu'r camau y mae sefydliadau yng Nghymru yn eu cymryd, gan gynnwys Periods in Poverty, Wings Cymru, The Red Box Project, Ymddiriedolaeth Trussell ac eraill, i fynd i'r afael â mater hwn.
3. Yn nodi'r adroddiad terfynol gan weithgor craffu cyngor Rhondda Cynon Taf a sefydlwyd i ddelio â darparu cynhyrchion misglwyf am ddim mewn ysgolion.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ystyried ymchwil presennol a newydd ar effaith bosibl tlodi misglwyf a stigma ar ddysgu;
b) ystyried galwadau i wella addysg ar y pwnc a chynnig cynhyrchion misglwyf am ddim mewn sefydliadau addysg; ac
c) nodi ffyrdd i sicrhau bod cynhyrchion misglwyf ar gael i fanciau bwyd Cymru.
Plan International UK - 1 in 10 girls have been unable to afford sanitary wear (Saesneg yn unig)
Cyngor Rhondda Cynon Taf – Adroddiad terfynol y gweithgor craffu sy'n ymdrin â darparu cynhyrchion misglwyf am ddim mewn ysgolion (Saesneg yn unig)
Cefnogwyr:
David Rees (Aberafan)
Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni)
Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)
John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)
Leanne Wood (Rhondda)
Mick Antoniw (Pontypridd)
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Sian Gwenllian (Arfon)
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Vikki Howells (Cwm Cynon)
(60 munud)
NDM6712 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael).
2. Yn nodi ymhellach fod y cytundeb yn gwneud y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) a basiwyd gan fwyafrif yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn afraid.
3. Yn gresynu at y ffaith bod y cytundeb yn rhoi feto dros feysydd deddfwriaeth ddatganoledig i Senedd y DU.
4. Yn gresynu ymhellach at y ffaith bod y cytundeb yn tanseilio Papur Gwyn Llywodraeth Cymru-Plaid Cymru sy'n datgan "na ddylai ymadawiad y DU o’r UE arwain at Lywodraeth y DU yn crafangu pwerau datganoledig yn ôl. Bydd unrhyw ymgais o’r fath yn cael ei gwrthwynebu’n gadarn gennym".
5. Yn galw am bleidlais ystyrlon ar y cytundeb yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.
European Union (Withdrawal) Bill (Saesneg yn unig)
Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru)
Papur Gwyn: Diogelu Dyfodol Cymru – Pontio o’r Undeb Ewropeaidd i berthynas newydd ag Ewrop
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu:
a) y cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael);
b) y bydd hyn yn amddiffyn marchnad fewnol y DU ac yn sicrhau na fydd rhwystrau newydd yn cael eu creu o fewn y DU ar gyfer defnyddwyr a busnesau;
c) bod hyn yn golygu y bydd y mwyafrif llethol o bwerau'r UE sy'n croestorri â chymwyseddau datganoledig yn mynd yn uniongyrchol i seneddau a chynulliadau datganoledig pan fydd y DU yn gadael yr UE;
d) y ddyletswydd a osodir ar Weinidogion y DU i geisio cytundeb y deddfwrfeydd datganoledig bob tro y maent yn bwriadu gwneud rheoliadau i roi maes polisi o dan y pwerau sydd wedi'u rhewi yng nghymal 11;
e) y terfyn amser a gyflwynwyd ar y cyfyngiad dros dro ar gymhwysedd datganoledig; ac
f) bod hyn yn golygu y bydd Llywodraeth Cymru bellach yn argymell bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n pasio cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer Bil (Ymadael) yr UE.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2. Julie James (Gorllewin Abertawe)
Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:
3. Yn cytuno bod y canlyniad cadarnhaol hwn i'r negodiadau â Llywodraeth y DU yn diogelu pwerau'r Cynulliad Cenedlaethol dros bolisïau datganoledig yn yr amgylchiadau sy'n newid sydd wedi'u creu gan Brexit ac yn cyfnerthu Confensiwn Sewel, ar sail y sefyllfa ddiofyn bod angen cydsyniad y Cynulliad ar gyfer newidiadau i gymwyseddau'r Cynulliad.
4. Yn croesawu'r ffaith y caiff unrhyw fframweithiau gan y DU gyfan i ddisodli fframweithiau presennol yr UE eu negodi'n rhydd rhwng y llywodraethau ac y byddant yn ddarostyngedig i Gonfensiwn Sewel; a thra bo'r fframweithiau hyn yn cael eu negodi, na fydd unrhyw Lywodraeth, gan gynnwys Llywodraeth y DU mewn perthynas â Lloegr, yn gallu cyflwyno deddfwriaeth sy'n gwyro oddi ar y sefyllfa bresennol.
5. Yn nodi ymhellach y caiff y Cynulliad Cenedlaethol y cyfle am bleidlais ystyrlon ar y cytundeb pan fydd yn ystyried y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol sydd i'w gyflwyno gan Lywodraeth Cymru.
(30 munud)
NDM6711 Rhianon Passmore (Islwyn)
Gwlad y gân: datblygu strategaeth addysg cerdd i Gymru
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 8 Mai 2018